Edrych i mewn: Cymraeg
Coeden y Flwyddyn 2024
Pleidleisiwch dros eich hoff goeden i’n helpu i goroni Coeden y Flwyddyn eleni.
Gall coeden fod yn breswylydd hynaf pentref, yn sail i hunaniaeth rhanbarth neu’n gofeb naturiol sy’n rhan annatod o stori cenedl. Gall hefyd fod yn dirnod lleol sy’n agos at galon pawb, yn lle i chwarae a gwneud ymarfer corff, yn destun balchder garddwr neu’n fan i gymunedau ddod at ei gilydd.
Eleni mae’r gystadleuaeth genedlaethol yn dathlu coed derw mawreddog ledled y DU. Mae ganddynt ganrifoedd o hanes, ac mae gan bob un stori ryfeddol i’w hadrodd. Mae pob un hefyd yn gwneud llawer o bethau eraill, gan gynnwys cynnal bywyd gwyllt pwysig, glanhau’r aer o’n cwmpas a hybu ein lles.
Mae ein panel o arbenigwyr wedi creu rhestr fer ar gyfer Coeden y Flwyddyn 2024, ac wedi dewis 12 derwen wych o bob cwr o’r DU. Dyma eich cyfle i bleidleisio dros eich hoff goeden a’n helpu i goroni pencampwr. Bydd yr enillydd yn cynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn Ewrop!
Gallwch bleidleisio tan 11.59pm ar 21 Hydref. Byddwn yn cyhoeddi enillydd eleni ar 29 Hydref.
Nid oes cyfreithiau i ddiogelu llawer o’n coed hynaf a mwyaf gwerthfawr. Rydym yn annog llywodraethau’r DU i newid hyn. Ychwanegwch eich llais at ein galwad am well cyfreithiau diogelu.
Y rhestr fer
1. Derwen y Frenhines Elizabeth, Midhurst, Gorllewin Sussex
- Cylchfesur: 13.15m
- Oed: 800-1,000 o flynyddoedd
Ceubren mawreddog â chylchfesur anferth sy’n golygu mai dyma’r dderwen mes di-goes fwyaf ond un sydd wedi’i chofnodi. Mae’n sefyll yn ogoneddus yn nhir Parc Cowdray ac mae’n rhan o gyfres arbennig o goed derw hynafol sy’n gysylltiedig â’r Frenhines Elizabeth I. Credir bod y frenhines wedi sefyll ger y goeden yn ystod taith hela yn 1591, â bwa a saeth yn ei llaw yn barod i saethu carw. Amcangyfrifir y gallai’r dderwen fawreddog hon fod hyd at 1,000 o flynyddoedd oed, ac y byddai’n 500 mlwydd oed yn barod yn ystod teyrnasiad Elizabeth.
2. Derwen Darwin, Amwythig, Sir Amwythig
- Cylchfesur: 7.01m
- Oed: 550 o flynyddoedd
Mae’r dderwen unig hon yn edrych draw dros gefn gwlad Amwythig, fel y mae wedi gwneud ers cenedlaethau. Mae ganddi gylchfesur trawiadol o tua saith metr, ac mae ei phresenoldeb wedi syfrdanu ac ysbrydoli llawer dros y blynyddoedd. Gan ei bod yn agos iawn at The Mount, cartref plentyndod Charles Darwin, mae’n anodd peidio â meddwl bod y goeden drawiadol hon a’r ardal wledig o’i chwmpas wedi helpu i ennyn diddordeb y Charles ifanc ym myd natur. Yn anffodus, mae’r goeden hon, y cyfeirir ati’n lleol fel Derwen Darwin, ac wyth coeden hynafol arall dan fygythiad oherwydd cynlluniau ar gyfer Ffordd Osgoi Amwythig, a allai olygu bod pum canrif o hanes naturiol yn cael eu colli am byth.
3. Derwen Gregynog, Tregynon, Powys
- Cylchfesur: 9.00m
- Oed: 500 o flynyddoedd
Mae Derwen fawreddog Gregynog yn sefyll ger nifer o goed mawr yn y Goedwig Fawr ar dir Plas Gregynog. Mae’r ardal yn werthfawr iawn i fywyd gwyllt ac yn cael ei hystyried yn un o gynefinoedd tir parc a choed pori hynafol pwysicaf Cymru. Mae’r dderwen drawiadol, y credir ei bod o leiaf bum canrif oed, yn cynnal rhywogaethau di-rif, gan gynnwys cennau pwysig. Mae llawer o bwysigion wedi ymweld â’r Plas dros y blynyddoedd, ac mae’n bosibl bod pobl fel Gustav Holst, George Bernard Shaw a’r Prif Weinidog Stanley Baldwin wedi edmygu’r goeden anhygoel hon.
4. Derwen Bowthorpe, Bourne, Swydd Lincoln
- Cylchfesur: 13.38m
- Oed: tua 1,000 o flynyddoedd
Derwen anhygoel Bowthorpe yw’r goeden letaf ond un ar ein rhestr, ac mae’n debyg bod te-partis yn arfer cael eu cynnal y tu mewn i’w boncyff gwag! Yn ôl y sôn llwyddodd tri dwsin o bobl i sefyll y tu mewn iddi unwaith, ac mae’r marciau graffiti hynafol ar ei waliau mewnol yn adrodd hanes ymwelwyr y gorffennol. Heddiw, mae’r ffens sydd o’i chwmpas yn ei chadw rhag niwed ac yn sicrhau ei bod yn cael y parch y mae’n haeddu ei gael fel coeden hynafol 1,000 o flynyddoedd oed. Cafodd ei henwi yn un o 50 o Goed Mawr Prydain gan y Cyngor Coed i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002.
5. Derwen Capon, Jedburgh, Gororau’r Alban
- Cylchfesur: 9.40m
- Oed: 700-1,000 o flynyddoedd
Mae Derwen Capon yn un o’r coed olaf sydd wedi goroesi o goetir hynafol Jedforest. Nid yw’n arbennig o siapus, ac mae’n bosibl bod hynny’n un rheswm pam na chafodd ei thorri, oherwydd go brin y gellid defnyddio pren ohoni i adeiladu llongau. Tybir bod y llecyn hwn yn fan cyfarfod neu ymgasglu yn yr 16eg ganrif, a dywedir bod dynion lleol yn cyfarfod dan ganghennau’r dderwen cyn ysgarmesau neu i ddatrys anghydfodau. Ers 75 o flynyddoedd mae wedi bod yn rhan o ŵyl flynyddol Jethart Callants, a defnyddid sbrigyn o’r goeden i addurno’r arweinydd, neu’r Callant. Roedd y goeden hon hefyd yn un o 50 o Goed Mawr Prydain a ddewiswyd gan y Cyngor Coed i nodi Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002.
6. Derwen y Brenin Ieuan, Sparkford, Gwlad yr Haf
- Cylchfesur: 10.74m
- Oed: tua 1,000 o flynyddoedd
Mae cenedlaethau o blant wedi eu magu yng nghysgod y goeden hyfryd hon, â thros 500 mlynedd o hanes, sy’n tyfu ar dir ysgol. Sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol yn 1519 – pan oedd y goeden eisoes tua 500 mlwydd oed - gan Richard Fitzjames, Esgob Llundain, a’i nai, John, a ddaeth yn Syr John Fitzjames, Prif Ustus Mainc y Brenin. Daeth yn Ysgol Baratoi Hazlegrove yn 1947 ac mae disgyblion y blynyddoedd diwethaf wedi dathlu’r goeden y maent yn lwcus i gael ei gweld bob diwrnod.
7. Derwen Marton, Marton, Swydd Caer
- Cylchfesur: 14.02m
- Oed: 1,200 o flynyddoedd
Ar yr olwg gyntaf, byddai’n hawdd camgymryd y tri chwlffyn o bren am dair coeden annibynnol, ond mewn gwirionedd darnau ydyn nhw o un dderwen hynafol anferth. Mae’n un o’r coed derw hynaf a mwyaf trwchus yn y DU, a bydd wedi darparu bwyd a chysgod hanfodol i fywyd gwyllt am ganrifoedd. Mae’n bosibl ei bod wedi bod yn ffynhonnell coed tân hanfodol, deunyddiau adeiladu a phorthiant i anifeiliaid dros y gaeaf am genedlaethau hefyd. Mae hon hefyd yn un o’r coed a ddewiswyd yn 2002 fel un o Hanner Cant o Goed Mawr Prydain i nodi Jiwbilî Aur y Frenhines.
8. Derwen Te-parti, Bury St Edmunds, Suffolk
- Cylchfesur: 12.80m
- Oed: 700+ o flynyddoedd
Mae’r Dderwen Te-parti, sy’n sefyll yn falch yn y parcdir o amgylch Ystad Ickworth, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn hŷn o dipyn na’r plasdy Eidalaidd a adeiladwyd yn y 18fed ganrif. Mae’r hen dderwen geinciog hon yn goeden arwyddocaol i bobl leol ac i fywyd gwyllt, a thybir mai hon yw’r goeden hynaf ar yr ystad, a’i bod yn un o goed hynafol gorau Suffolk. Mae’r enw’n deillio o’r te-partis i blant y pentref a gynhelid dan ganghennau’r goeden tua 100 mlynedd yn ôl. Trefnwyd y digwyddiadau hyn yn wreiddiol gan bedwerydd Ardalydd ac Ardalyddes Bryste, a daethant yn draddodiad poblogaidd. Mae ffens wedi’i godi o amgylch y dderwen hynod hon erbyn hyn i’w diogelu rhag ymwelwyr, ond mae’n cynnig bwyd a chysgod i dros 300 o rywogaethau, yn cynnwys ystlumod, adar a mamaliaid bach.
9. Y Michael, Dalkeith, Midlothian
- Cylchfesur: 10.32m
- Oed: 1,000+ o flynyddoedd
Mae’r goeden aml-goesyn anferth hon yn hybrid o ddwy dderwen frodorol y DU, y dderwen mes coesynnog a’r dderwen mes di-goes. Mae ganddi enw diddorol sy’n deillio mae’n debyg o’r gair Sgotaidd ‘meikle’, sy’n golygu mawr, er bod rhai yn credu ei bod wedi’i henwi ar ôl The Michael, y llong hwyliau fwyaf ar y dŵr yn yr 16fed ganrif.
Mae coetir derw hynafol Parc Gwledig Dalkeith yn gynefin anarferol yn yr Alban ac yn un o ddim ond tri safle yn y wlad lle gwelir coed derw hynafol. Credir bod y coed derw niferus sydd yma yn ddisgynyddion i’r Michael.
10. Derwen Castle Archdale, Enniskillen, Swydd Fermanagh
- Cylchfesur: 7.68m
- Oed: 400+ o flynyddoedd
Byddai’n hawdd methu’r trysor cudd yma wrth gerdded drwy Barc Gwledig Castle Archdale, gan fod y dderwen wedi’i hamgylchynu gan goed eraill ac wedi’i chuddio gan redyn a mwsogl. Os edrychwch yn fanylach fe welwch foncyff ceinciog mawr sy’n ymrannu’n ddau goesyn tal. Mae ôl y tywydd ar ei rhisgl a’r canghennau hir a throellog yn dangos ei hoed.
Mae’n debyg bod y goeden hon wedi gweld adeiladu, dal, llosgi a gadael castell cyfagos Archdale yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae’r castell bellach yn adfail. Roedd yr ardal yn fwrlwm o weithgaredd yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd, pan oedd Castle Archdale yn safle awyrennau môr. Erbyn hyn mae’n barc gwledig heddychlon, ac yn llawn pryfetach, blodau gwyllt a lleoedd i fynd am dro.
11. Derwen Skipinnish, Achnacarry, Yr Ucheldiroedd
- Cylchfesur: 8.00m
- Oed: 400+ o flynyddoedd
Mae rhywbeth hudolus am y dderwen hyfryd hon, ac mae’n edrych yn drawiadol iawn wrth iddi godi mewn llannerch olau yng nghanol planhigfa sbriws dywyll. Mae’n un o’r coed derw mwyaf yn yr ardal ac yn cynnal ecosystem anferth, gan gynnwys llawer o gennau fel Bunodophoron melanocarpum, sy’n anghyffredin y tu allan i orllewin yr Alban.
Dywedodd gwirfoddolwr lleol, Gus Routledge, “Mae’n un o’r coed mwyaf trawiadol rydw i wedi eu gweld erioed, ac mae’n cynrychioli llawer o bethau i mi: harddwch, brwydr, y natur ddynol ar ei gorau ac ar ei gwaethaf, gwyddoniaeth, diwylliant, hanes, coedwigoedd glaw tymherus... Cymaint o bethau yng nghanghennau un goeden!”
12. Derwen yr Eliffant, New Forest, Hampshire
- Cylchfesur: 3.96m
- Oed: tua 150-300 o flynyddoedd
Mae’r goeden hon, a enwebwyd gan y cyhoedd, yn cael ei henw o’i siâp anarferol. Dywedodd un o’r cefnogwyr, Claire Sheppard:
“Dyma fy hoff dderwen i dynnu ei llun yn nhir caeedig Old Sloden, New Forest. Derwen wedi’i thocio yw hi, ac mae’n cael ei galw’n ‘Dderwen yr Eliffant’ oherwydd bod ganddi drwnc anferth! Rwy’n cerdded tua 5km o faes parcio Abbotswell i fynd yno ac yn ôl, ac rwy’n mynd yn groen gŵydd bob amser yn y goedwig yma. Dydy o ddim yn lle hawdd iawn i’w gyrraedd, felly mae hi’n ddistaw iawn bob amser; mae heddwch a llonydd yma.”